Cymdeithas Golff y Ddinas

Cystadleuthau: 3 neu 4 gwaith y flwyddyn ar gyrsiau amrywiol yn Ne Cymru

Clwb Hoci Cymric

Clwb hoci i ferched sy’n cwrdd yn hamddenol bob nos Lun 7-8pm yng Nghanolfan Hamdden y Tyllgoed. Croeso i unrhywun o 16+ boed yn hyderus yn chwarae hoci neu heb chwarae ers blynyddoedd

Clwb Cymric

Clwb Pel-Droed Cymru Cymraeg Caerdydd a sefydlwyd yn 1969. Rhedeg dau dim hyn a thim ieuenctid (dan 18). Croeso i bawb

Adran Iau Clwb Rygbi Cymru Caerdydd

Ymunwch a’n teulu, lle mae aelod o’r Adran Iau yr un mor bwysig a’r garfan hyn. Cynhelir hyfforddiant a sesiynau hwylog am 11 bob bore Sul